Cân yr Adar Gwylltion
Diofal yw’r aderyn
Ni hau ni fed un gronyn
O, heb ddim gofal yn y byd
Ond canu hyd y flwyddyn
Cwcw, cwcw, medd y gog
Ynghrog ‘bo pob aderyn
O maent yn tiwnio wrth y cant
Yng nghlogwyn Pant-yr-Odyn
CYTGAN:
Gwyn eu byd yr adar gwylltion
Hwy gânt fynd y ffordd a ffynnon
Rhai tua’r môr, rhai tua’r mynydd
A dŵad adref yn ddigerydd
Yn y coed y maent yn cysgu
Yn yr eithin maent yn nythu
Yn y llwyn tan ddail y bedw
Dyna’r fan y byddant farw
O’r gog fach yr wyt yn ffolog
Canu ‘mysg yr eithin pigog
Dos i blwyf Dolgellau dirion
Ti gei yno o fedw gleision
Robin goch ddaeth at yr hiniog
A’i ddwy aden yn anwydog
A dywedai mor ysmala
Mae hi’n oer, fe ddaw yn eira
CYTGAN
Song of the Wild Birds
The bird is carefree
Not sowing or reaping grain;
Without any care in the world
It is singing the year long
Cuckoo, cuckoo, the cuckoo sings
Inviting every bird to sing along
Oh they are singing by the hundreds
At the crags of Pant-yr-Odyn
CHORUS:
Perfect is the world of the birds
That fly by the roadway and the well
Some to the sea, some to the mountain
And come home safely
In the forest they sleep
In the gorse they nest
In the bush under the birch leaves
That’s the place they will die
Oh little cuckoo, aren’t you foolish
Singing among the thorny gorse
Go to the parish of fair Dolgellau
You will find green birches there
A red robin came to the doorstep
With its two wings injured
And it jokingly says
It’s cold, snow will come
CHORUS