Wrth fynd efo Deio i Dywyn

Origin: Wales
Language: Welsh

Wrth fynd efo Deio i Dywyn

Mi dderbyniais bwt o lythyr,
Oddi wrth Mistar Jones o'r Brithdir,
Ac yn hwnnw 'r oedd o'n gofyn.
Awn i hefo Deio i Dywyn.

Bûm yr hir yn sad gysidro
Prun oedd orau mynd ai peidio,
Ond wedi'r oll bu i mi gychwyn
Hefo Deio i ffwrdd i Dywyn.

Fe gychwynnwyd ar nos Wener
Dod i Fawddwy erbyn swper;
Fe gaed yno uwd a menyn
Wrth fynd hefo Deio i Dywyn.

Dod ymlaen ac heibio i'r Dinas
Bara a chaws a gaed yng Ngwanas,
Trwy Dalyllyn yr aem yn llinyn
Wrth fynd hefo Deio i Dywyn.

Dod drwy Abergynolwyn
Wedyn heibio Craig y Deryn:
Pan gyrhaedd'som Ynys Maengwyn.
Gwaeddai Deio, "Dacw Dywyn!"

Os bydda'i byw un flwyddyn eto
Mynna'n helaeth iawn gynilo;
Mi gaf bleser anghyffredin
Wrth fynd hefo Deio i Dywyn.

Going to Tywyn with Deio

I received a letter
From Mr Jones from Brithdir
And in it he was asking
If I would go to Tywyn with Deio

I thought long and hard
If it would be better if I went or not
But after all that I began
To go to Tywyn with Deio

It began on Friday night
Coming to Mawddwy by suppertime
We got porridge and butter there
Whilst going to Tywyn with Deio

Coming ahead and passing Dinas
Bread and cheese to be had in Gwanas
Through Dalyllyn we went in a row
Whilst going to Tywyn with Deio

Coming through Abergynolwyn
And then passing Craig y Dern
When we reached Ynys Maengwyn,
Deio cried, "That's Tywyn!"

If I lived another year
I will save up money 
I will have the uncommon pleasure
Of going to Tywyn with Deio